Llwybrau

Llwybrau

Ceir disgrifiadau a fideos enghreifftiol o'r llwybrau isod.

Edrychwch ar ein map rhyngweithiol i weld rhagor o fideos a'r llwybrau mewn mwy o fanylder.

 

LLWYBR CANOLOG

PELLTER: 22 milltir

Llwybr gwastad hyfryd ar hyd Bae Abertawe cyfan. Llwybr oddi ar y ffordd gan mwyaf, yn addas i bob defnyddiwr beth bynnag yw ei allu. Byddwch yn synnu pa mor hawdd yw teithio rhwng canolfannau mawr.

CWM TAWE

Pellter: 18 milltir

Dilynwch hen lwybrau camlas, rheilffordd ac afon Abertawe i ddarganfod ei orffennol diwydiannol a'i wedd bresennol wedi'i hadfywio.

Llwybr cyflym oddi ar y ffordd sy'n gyswllt gwych trwy gwm deniadol afon Tawe, gan osgoi'r holl fannau lle mae'r traffig yn gallu arafu.

CYFFORDD BONYMAEN

Pellter: 0.5 milltir

Cyswllt byr ond hollbwysig sy'n rhoi mynediad uniongyrchol i Barc Menter Abertawe a llwybr Cwm Tawe.

CANOL Y DDINAS

Pellter: 14 milltir

Y llwybr mwyaf uniongyrchol o ganol dinas Abertawe i'w chymunedau yn y gogledd.

Mae'r llwybr hwn ar y ffordd gan mwyaf.

TREFANSEL

Pellter: 2 filltir

Llwybr gwych ar gyfer cymunedau Brynhyfryd, Trefansel a'r Hafod, gan gysylltu'n uniongyrchol â chanol y ddinas.

Mae gan y llwybr hwn gymysgedd o lonydd beicio a ffyrdd tawel, gan osgoi sawl ffordd â thraffig prysur.

AR DRAWS Y CWM

Pellter: 7 milltir

Mae'r prif lwybr ar y ffordd o'r dwyrain i'r gorllewin yn arwain i ogledd Bae Abertawe, gan gysylltu llawer o gymunedau preswyl.

Cymysgedd o lwybrau beicio ar y ffordd ac oddi ar y ffordd.

LLWYBR CLUN

Pellter: 9.5 milltir

Llwybr hardd sy'n ymestyn o dref wledig Pontarddulais yn y gogledd trwy Bengelli a Gorseinon i Dregŵyr.

Cymysgedd o lwybrau ar y ffordd ac oddi arni yw hwn.

LLWYBR Y COCOS

Pellter: 2.5 milltir

Llwybr sy'n gwau ei ffordd ar hyd ymyl morfeydd heli gogledd Gŵyr, gan greu cyswllt o Benclawdd i Dregŵyr gyda rhannau da oddi ar y ffordd ac ar y ffordd.

CWM NEDD

Pellter: 16 milltir

Yn dechrau ger mynedfa i lwybrau cerdded hyfryd y sgydau. Mae'r llwybr cymudo hwn yn cysylltu Glyn-nedd â Chastell-nedd a'r tu hwnt i'r arfordir. Mae ar y ffordd gan mwyaf; fodd bynnag, mae mesurau arafu traffig a rhybuddio ymlaen llaw wedi'u gosod ar rannau o'r llwybr.

Ceir llwybr amgen ar hyd Camlas Nedd o Gastell-nedd i Lansawel, gan osgoi'r A474 i feiciau ffordd.

AFAN

Pellter: 8.5 milltir

Llwybr cyflym yw hwn sy'n mynd trwy gefn gwlad Cwm Afan. Mae'n creu cyswllt hollbwysig rhwng cymunedau'r cwm a Phort Talbot, gan gysylltu Aberafan â Pharc Coedwig Afan a'r pentrefi y tu hwnt. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr oddi ar y ffordd sy'n ei wneud yn berffaith i ddefnyddwyr o bob gallu.

CWM DULAIS

Pellter: 7 milltir

Mae'r llwybr hwn ar ffyrdd tawel gan mwyaf, gan gysylltu Blaendulais ag Aberdulais a Llwybr Cwm Nedd.

CYSWLLT BRYNCOCH

Pellter: 6 milltir

Llwybr ar y ffordd gan mwyaf gan gysylltu Castell-nedd â Phontardawe trwy Fryncoch. Mae'n cysylltu Llwybr Cwm Nedd a Llwybr Cwm Tawe, gan alluogi cymudo ar y beic i leoedd yn y ddau gwm.

CYSWLLT SGIWEN

Pellter: 2 filltir

Llwybr cyswllt byr o Goed Darcy i Gastell-nedd trwy Sgiwen. Mae'r llwybr hwn ar y ffordd, gan gysylltu â'r Cyswllt Ar Draws y Cwm, Llwybr Cwm Nedd a Chyswllt Bryncoch.

MILLTIR Y MWMBWLS

Pellter: 2.7 milltir

Llwybr hardd ar hyd y blaendraeth gan ddilyn llinell hen Dram y Mwmbwls, gan gysylltu cymunedau Blackpill, West Cross a'r Mwmbwls.

Llwybr oddi ar y ffordd ar gyfer defnyddwyr o bob gallu, gan gysylltu â'r Llwybr Canolog.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot