Amodau a Thelerau

Amodau a Thelerau

Cyffredinol

Eiddo Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw Gwefan Beicio Bae Abertawe ac mae'n cael ei chynnal er mwyn i chi ei defnyddio.

Mae cyrchu a defnyddio gwefan Beicio Bae Abertawe sy'n cynnwys yr amodau a'r telerau hyn yn golygu eich bod chi (y defnyddiwr) yn derbyn yr amodau a'r telerau hyn, sy'n dod i rym o'r dyddiad cyntaf y byddwch yn defnyddio'r wefan hon. Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a'r telerau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Os cânt eu diwygio, bydd yr amodau a'r telerau diwygiedig yn cael eu harddangos ar y tudalennau hyn a bydd parhau i ddefnyddio gwefan Beicio Bae Abertawe ar ôl diwygio o'r fath yn golygu eich bod yn derbyn yr Amodau a'r Telerau diwygiedig.

Dolenni i wefannau eraill

Er cyfleuster i chi, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymdrechu i sicrhau bod y dolenni hyperdestun o'r wefan hon i wefannau eraill a weithredir gan gyrff eraill yn berthnasol ac yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol.

Os byddwch yn cyrchu un o'r gwefannau cysylltiedig hyn, byddwch yn gadael gwefan Bwrdd Diogelu Bae'r Gorllewin ac yn gwneud hynny ar eich menter eich hun: Chi fydd yn gorfod cymryd y camau angenrheidiol i'ch amddiffyn eich hun rhag unrhyw firysau a/neu elfennau dinistriol/llygrol eraill.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys yn y gwefannau cysylltiedig hyn na dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a ddarperir ynddynt, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl (naill ai gyfreithiol neu fel arall) am unrhyw golled neu niwed gan gynnwys, heb gyfyngiad, golledion neu niweidiau anuniongyrchol neu ganlyniadol, sy'n dilyn o ddefnyddio, neu mewn cysylltiad â defnyddio unrhyw un o'r gwefannau cysylltiedig hyn.

Ni ddylid ystyried y ffaith i ni gynnwys hypergysylltiadau â gwefannau eraill mewn unrhyw ffordd ein bod yn cymeradwyo'r gwefannau hyn.

Diogelu rhag Firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i gadarnhau a phrofi deunydd ar bob cam o'r cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi ddefnyddio rhaglen gwrthfirysau ar yr holl ddeunydd y byddwch yn ei lawrlwytho o'r Rhyngrwyd. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad na niwed i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd pan fyddwch yn defnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.

Hawlfraint

Mae'r deunyddiau ar y wefan hon, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw destun, logo, eiconau, ffotograffau ac arlunwaith arall dan hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot os na nodir yn wahanol. Gellir defnyddio'r deunydd hawlfraint hwn heb ein caniatâd ar yr amod nad yw'n cael ei atgynhyrchu, na'i addasu na'i ddefnyddio at ddibenion elw ariannol. Ni ellir defnyddio'r deunydd hawlfraint hwn yn fasnachol heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.

Nid yw'r caniatâd i ddefnyddio deunyddiau hawlfraint ar y wefan hon yn cwmpasu unrhyw ddeunyddiau a nodir eu bod yn hawlfraint trydydd parti: er mwyn defnyddio deunyddiau hawlfraint trydydd parti, mae'n rhaid cael caniatâd y trydydd parti hwnnw.

Ansawdd y Data

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth o safon ar y wefan hon a gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth hon yn gywir ac yn gyfredol. Os ydych yn meddwl bod gwybodaeth anghywir neu hen ar y wefan hon, cysylltwch â'r Tîm BGD

Awdurdodaeth Gyfreithiol

Caiff yr Amodau a'r Telerau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan yr Amodau a'r Telerau hyn yn destun awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot