Cycle Swansea Bay

Look out for the signs.

Cycling in Swansea bayMae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe wedi cydweithredu i lunio map yn null Tiwb Llundain o lwybrau beicio Bae Abertawe. Nod y cynllun yw annog cymudwyr yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe i adael y car gartref a defnyddio beic i deithio i'r gwaith, yr ysgol neu'r siopau.

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot ac Abertawe sawl llwybr beicio o safon, sy'n addas ar gyfer unrhyw un o ddechreuwyr pur i feicwyr mwy profiadol. Mae'r map newydd hwn yn null y Tiwb ar gyfer cymudwyr ac yn canolbwyntio ar lwybrau sy'n cynnig y daith fwyaf uniongyrchol a gwastad, lle y bo modd, ac sy'n addas i bob math o feiciau.

Neilltuir lliw i bob llwybr a bydd y beicwyr yn gweld lliwiau map dull y Tiwb ar arwyddion ar hyd y llwybrau beicio, er mwyn iddynt allu sicrhau eu bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

Mae ein map rhyngweithiol yn dangos llwybrau beicio Bae Abertawe mewn mwy o fanylder ac mae'n cynnwys fideos byr o rannau o'r llwybrau er mwyn rhoi syniad i chi o sut olwg sydd arnynt.

Cliciwch ar fap dull y Tiwb isod er mwyn mynd i'r map rhyngweithiol.

Cycle Route Schematic

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot